Artistiaid 13

Bobby Abate

Mae Bobby Abate (UDA) yn creu ffilmiau a fideo sy’n ymdoddiad o hiraeth, seicodrama a golygfa gydag ymdeimlad sy’n amlwg fodernaidd.

Mae’r ‘Evil Eyes’ (Llygaid Anfad) 2011 yn talu gwrogaeth i farwolaeth yr opera sebon a bydd yn cael ei arddangos yng ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Elizabeth Ashworth

Intense Colour Movement Collaboration.

Yn dilyn ei phrofiad o ysgrifennu am liw ar gyfer ‘Intense Colour Movement’ (Symudiad Lliwiau Dwys) yng ngŵyl digidol blinc y llynedd, ac wedi’i chynhyrfu gyda’r berthynas rhwng celf gweledol a chelf ar ffurf geiriau, mae Elizabeth wedi creu cerddi newydd sy’n ymateb i gelf gweledol/digidol.

Bellach mae Elizabeth yn gweithio ar brosiect ‘Painting the Poem’ (Peintio’r Gerdd) sydd wedi’i ariannu gan ACW.

Darren Banks

Darren Banks

Mae Darren Banks (DU) yn cyfuno darn o ffilm wedi’i ddarganfod ar hap gyda ffilmiau wedi’i creu’n fwriadol er mwyn cynhyrchu cerfluniau a gosodiadau sy’n archwilio syniadau am ddofi, technoleg farw, sinema a’r anhysbys. Mae’r gwaith yn cwestiynu sut mae cerfluniau’n cael eu dehongli mewn cydberthynas â gwrthrychau, ffilmiau a’r cof…

Bydd gwaith Darren Banks yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Mike Bowen

Mae Mike Bowen yn artist o America.

“Dwi’n gweithio fel artist er mwyn cysylltu’r byd ysbrydol gyda’r byd materol. Mae pob llinell, lliw, sŵn a thafluniad golau yn anelu at ddadlennu’r gwir am ein bodolaeth ni ar y byd.”

Mae ‘1,111 Windows to the Soul’ (1,111 o Ffenestri i’r Enaid) yn dafluniad digidol fydd yn cael ei arddangos yng ngŵyl digidol blinc am y tro cyntaf eleni.

http://http://bowenimagery.com

.

Joel Cockrill.

Placebo

Mae Joel Cockrill yn gyd-guradur blinc

Mae dewis lleoliad a cydchwarae gyda sŵn a goleuo o fewn gofod penodol wedi bod yn gyfeirad mynych yng ngwaith Joel a hynny ar draws amrywiaeth eang o archwiliadau cyfryngol a chreadigol. Mae rhain oll yn ddiddordebau craidd sydd wedi bod yn ddylanwadau elfennaidd ar gyfer ffilm, perfformiad, gwaith sain a chydweithio ar hyd y pum mlynedd ar hugain diwethaf.

Neil Coombs

Image of Installation @blinc12

Mae Neil Coombs yn awdur ac yn artist amlgyfrwng yng Nghymru. Mae ei waith yn anelu at ddatguddio swrrealaeth rhyfeddodau dyddiol.

Mae Neil yn dychwelyd i ŵyl digidol blinc eleni gyda gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan waith Georges Bataille, ‘Stori’r Llygad’ (Story of the Eye).

Dymphna D’Arcy

Image of Civic Hall Projection @blinc12

Mae Dymphna yn berfformwraig/gwneuthurwr ffilmiau yng Nghonwy.

Mae cyfeiriadau at amser, lle a symudiad yn ogystal â’r darnau bychain hynny o hanes sy’n treiddio’n ddiarwybod gan ddylanwadu ar ein hymateb i leoliadau penodol yn themâu cyson yn ei gwaith. Yn ganolog i’w gwaith mae rhinwedd cyfnewidiol amser a chanlyniad amser ar leoliad yn ogystal ag archwilio’r croesdoriad rhwng amser, lleoliad a symudiad a’r syniad o orffennol, presennol a dyfodol fel endid cyd-ddibynnol a pharhaus.

Seth D’Arcy Schewe

Digital Tree

Mae Seth yn artist digidol yng ngogledd Cymru. Mae ei waith wedi’i ysbrydoli gan dechnoleg newydd a’i ddatblygiadau cyflym a’r effaith y mae hynny’n gael ar gymdeithas a’r ffordd yr ydym ni’n profi a deall ein byd sy’n newid yn barhaus. Mae’r syniad o ddefnyddio strwythurau naturiol gan ddod a hwy’n fyw gyda haenau digidol yn syniad sy’n ei gyffroi.

Wendy Dawson

Obscura

Mae Wendy yn gerflunydd ac yn artist digidol sy’n byw yng ngogledd Cymru. Mae’n cael ei hysbrydoli gan awydd bodau dynol i greu, gan amser a’r ffordd yr ydym yn cael ein cyfareddu gan y byd o’n cwmpas. Mae ei chyfraniad ‘Obscura’ yn lens sydd wedi’i greu o rew, ac yn union fel Camera Obscura, mae’n dal y byd am foment gan barhau i newid a symud. Cyfnod byr o amser sy’n cael ei greu gan olau, cyn diflannu unwaith eto. Mae’n brosiect sy’n canolbwyntio ar y golau a’r gwrthrych ar y cyd.

Eleni bydd ei thafluniad 3D dan y teitl ‘SWARM’ (Haid) yn cael ei arddangos yn ogystal. Dyma ddarn a gomisiynwyd ar gyfer Blinc y llynedd ac mae’n trafod syniadau am ‘ddeallusrwydd’ cyfunol gan rywiogaethau/rhaglenni syml, a hen hanes Conwy o gadw gwenyn.

 

Ronan Devlin

Ronan Devlin

Ôl-ddewlwedd

Mae ôl-ddelwedd yn rith-welediad sy’n galluogi i ddelwedd barhau i ymddangos o flaen ein llygaid, wedi i’r ddelwedd honno ddiflannu.

Mae’r gwaith hwn gan Ronan Devlin yn cael ei arddangos ar y cyd gyda cherddoriaeth wreiddiol gan David J. Knowles ac wedi’i fwriadu i gael ei arddangos ar raddfa enfawr er mwyn creu gofod myfyriol.

Menna Elfyn

Intense Colour Movement Collaboration

Mae Menna Elfyn wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth, nofelau i blant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr o’r DU a’r UDA yn ogystal â dramâu ar gyfer radio a theledu.

Yn dilyn ei chywaith y llynedd, ‘Intense Colour Movement’ (Symudiad Lliwiau Dwys) mae hi’n dychwelyd eleni wedi’i hysbrydoli gan weithiau Dylan Thomas.

Ganed Menna Elfyn yng Nghwm Tawe ond treuliodd y rhan helaethaf o’i bywyd yn Nyfed. Cafodd radd yn y Gymraeg ac yna Ddoethuriaeth o Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant lle y mae’n Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol. Cyhoeddodd ddwsin o lyfrau o farddoniaeth, hefyd nofelau i blant, libreti at gyfer cyfansoddwyr yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau yn ogystal ag ysgrifennu dramâu ar gyfer radio a theledu. Ei chyfrolau diweddaraf yw Merch Perygl ( Gomer, 2011) a Murmur ( Bloodaxe Books, 2012) a chafodd y gyfrol ddwyieithog ei dewis gan Gymdeithas Lyfrau ar Farddoniaeth gan ennill cymeradwyaeth a chlod ar gyfer 2012. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i ddeunaw o ieithoedd a derbyniodd Wobr Ryngwladol yn 2009 am y gwaith hwnnw. Mae’n golofnydd gyda’r ‘Western Mail’ er 1994 ac wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid yng Nghymru a thu hwnt.

Tessa Garland

Yn wreiddiol, cael ei hyfforddi fel cerflunydd wnaeth Tessa Garland (DU) ond am flynyddoedd lawer mae ei gwaith wedi’i ganolbwyntio ar y ddelwedd symudol. Mae ieithwedd sinematig yn ei galluogi i archwilio a chreu llefydd wrth gyfuno darnau a haenau ffilmiau o deithiau trwy’r bydysawd. Mae hi’n tueddu i ganolbwyntio ar safle, tirnod neu syniad gan weithio arno am gyfnod hir a gadael i’w arwyddocâd dyfu.

Bydd gwaith Tessa yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

 

Katie Goodwin

Katie Goodwin

Mae Katie Goodwin (DU) wedi’i disgrifio fel pioden sinematig. Mae’r rhan helaeth o’i gwaith cychwynnol yn dod o ddarnau o ffilm sy’n weddill wedi’i ffilmiau gael eu cynhyrchu. Mae hi’n anelu i arddangos stwff na fydd y gynulleidfa, fel arfer, yn cael eu gweld. Mae hi’n ailbrosesu a dinoethi eiliadau a fyddai, fel arfer, yn cael eu colli am byth.

Bydd gwaith Katie yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Alys Hughes

Still from Dance Performance @blinc12

Mae Alys Hughes ac Elly Stringer yn artistiaid o ogledd Cymru ac yn lleol i ardal Conwy. Maent yn gweithio ym meysydd dawns, perfformiad corfforol ac animeiddio/delwedd symudol. Yn dilyn eu perfformiad ‘Hiraeth’yng ngŵyl blinc y llynedd, cyflwyniad am ddyhead a oedd yn cyfuno dawns byw, soundscape, cerddoriaeth ac animeiddio; eleni byddent yn cydweithio eto er mwyn creu perfformiad sy’n anelu i amlygu pwysigrwydd y diwylliant Cymreig, yr iaith Gymraeg a mynegiant.

Craig Morrison

Film Still. The Hollow Men.

Mae Craig Morrison yn gyd-guradur blinc.

Eleni, wedi’i ysbrydoli gan waith Dylan Thomas, ‘Do Not Go Gentle into That Good Night’ mae Craig wedi creu gosodiad dan y teitl ‘Green Bay’ (Y Bae Gwyrdd).

Bydd hefyd yn creu map fydd yn cael ei daflunio ar adeilad Plas Mawr, er mwyn talu gwrogaeth i Fudiad y Swffragét (Suffragette Movement) sy’n dathlu canmlwyddiant eleni.

 Kika Nicolela

Kika Nicolela

Mae Kika Nicolela (Zurich/São Paulo) yn artist, gwneuthurwr ffilmiau a churadur o Brazil. Mae ei gwaith yn cynnwys fideos sianel-unigol, arsefylliadau, perfformiadau, rhglenni dogfen arbrofol a ffotograffiaeth. Graddiodd mewn Ffilm a Fideo ym Mhrifysgol São Paulo gan gwblhau cyrsiau ffilm ym Mhrifysgol UCLA a bellach yn astudio at radd Meistr mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Zurich.

Bydd gwaith Kika yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Outcasting

Outcasting

“Outcasting started as an online moving image gallery in 2007 by artist Michael Cousin. Based in Cardiff, this is an organisation that offers an international platform for experimental practitioners. Now in its sixth year it will be looking at representing new media practice in any form, audio, digital imagery and web-based projects as well as moving image practice.
Outcasting aims to present exciting work in online and offline venues, support the production and distribution of work through new commissions and distribution networks plus represent moving image talent on an individual basis. Outcasting also assists artists in production of new work.”

Marc Rees

Rwyf bellach wedi ymdrochi’n llwyr yn Nhalacharn, gorllewin Cymru yn ymchwilio i brosiect safle-benodol ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Deunydd Crai: Ailymweld â Llanreggub’, gwaith fydd yn ail-ddychmygu’r chwarae lleisiol yn ‘Under Milk Wood’, Dylan Thomas. Disgrifiodd Thomas drefgordd Caerfyrddin fel ‘y lle rhyfedda yng Nghymru’ a gyda’i chastell sydd yn ‘frown fel tylluanod’ (‘brown as owls’) a’i chymeriadau lliwgar a chyfoes, mae’n parhau i fod felly hyd heddiw. Felly, er mwyn dewis y geiriau ar gyfer ‘Light Bridge’ (Pont yn olau?) teimlwn ei fod yn addas i blymio i fyd barddonol dwys Thomas. Gyda golygfa o’r haul yn tywynnu ar yr aber a chri’r gylfinir yn y pellter dewisais dri gair yr oeddwn yn teimlo fyddai’n cyseinio’r ddau le. Dewisais Ildio, Gwaed a Cherrig.

John Rowley

John Rowley

Mae John Rowley (Cymru) yn gweithio ar nifer o gyfryngau gwahanol, yn cynnwys theatr, perfformiad, ffilm, cerfluniau a darluniau. Wedi’i fagu yn Essex, mae bellach yn byw yng Nghymru ers 1990. Gweithiodd am gyfnod gyda chwmni theatr safle-benodol BRITH GOF. Yn ogystal â’i waith unigol mae hefyd yn creu gwaith celf a pherfformio ar y cyd gyda Richard Huw Morgan fel rhan o ‘Good Cop, Bad Cop’.

Bydd gwaith John yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Ruaidhri Ryan

Ruaidhri Ryan

Bellach mae Ruaidhri Ryan (Llundain) yn astudio fel myfyriwr ôl-radd Celf Gain yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Mae wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn gwyliau ffilmiau, ar y teledu ac mewn galerïau. Mae Ruaidhri yn arsylwi ar ‘ddyheadau a siomedigaethau parhaus’ trwy ddadstrwythuro sinema a delweddau, pobl a lleoedd.

Bydd gwaith Ruaidhri yn cael ei arddangos yn ngherbyd sinema blinc fel rhan o gomisiwn ‘Outcasting’.

Tom Senior

Tom Senior

Mae Tom yn wreiddiol o Leeds ac yn animeiddiwr, darlunydd, cyfarwyddwr ac wedi graddio o Goleg Brenhinol Celf. Mae’n cael ei gynrychioli gan stiwdio animeiddio Sherbet, ac yn gweithio fel dylunydd ac animeiddiwr ar ei liwt ei hun (freelance) yn ogystal. Mae bellach yn byw yn Llundain.

Chris Squire

Mae Chris Squire yn artist sy’n creu gosodiadau cyfrannog a hudolus sy’n cael eu taflunio er mwyn mesmereiddio. Mae ei waith yn hygyrch ac yn annog y gynulleidfa i gymryd rhan mewn ffordd cwbl unigryw. Mae’n brofiad sy’n agored i bawbd ac yn siŵr o gael ei mwynhau.

Elly Strigner

Animated Film Still @blinc12

Mae Alys Hughes ac Elly Stringer yn artistiaid o ogledd Cymru ac yn lleol i ardal Conwy. Maent yn gweithio ym meysydd dawns, perfformiad corfforol ac animeiddio/delwedd symudol. Yn dilyn eu perfformiad ‘Hiraeth’yng ngŵyl blinc y llynedd, cyflwyniad am ddyhead a oedd yn cyfuno dawns byw, soundscape, cerddoriaeth ac animeiddio; eleni byddent yn cydweithio eto er mwyn creu perfformiad sy’n anelu i amlygu pwysigrwydd y diwylliant Cymreig, yr iaith Gymraeg a mynegiant.

Sharon Teear

Collaborative Dance Performance Still.

Mae Sharon yn brysur gwneud enw da fel artist gweledol yng Nghymru. Wedi cyfnod blaenorol o R&D wedi’i ariannu gan ACW, mae hi bellach wedi dechrau datblygu math newydd o waith sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng dwy ffurf o fewn dawns a chelf. Trwy ddefnyddio celf golau mae hi’n ymchwilio sut mae’r ddau wahanol beth yma’n gorgyffwrdd ac yn ymdoddi i’w gilydd yn yr un amser a’r un gofod. Mae’r golau a’r dawnswyr yn goleuo llwybrau ac yn creu symudiad sy’n tori trwy’r gofod hwnnw.

Rhys Trimble

Performing at The Festival Hub @blinc12

Mae Rhys yn fardd a pherfformiwr dwyieithog o Fethesda. Mae ganddo ddiddordeb mewn cerddi mawl o’r Oesoedd Canol fel gwaith y Cywyddwyr. Eleni, fel rhan o’i ddiddordeb angerddol mewn arbrofi avant garde ac ieithyddol mae Rhys yn defnyddio’r pastwn barddol er mwyn creu rhythmau a fydd yn deffro delweddau digidol fel taflunidau a recordiau o berfformiadau byw o effaith/adwaith y seibergerdd. Gyda chymorth gan yr arloeswr technolegol Zack De Santos.

Sean Vicary & Steve Knight

The Nightmare Room. blinc12

Mae Sean yn artist o orllewin Cymru ac mae Steve Knight yn ddatblygwr meddalwedd o Sir Benfro.

Maent yn cydweithio ar waith newydd ar gyfer blinc13 eleni gan iddynt gael eu hysbrydoli gan darddiad y syniad o wylio adar a’r datblygiadau newydd mewn technoleg gwyliadwraeth.

 

Josh Wedlake

Deffrowyd diddordeb Josh mewn animeiddio wrth iddo weithio i gwblhau gradd BA mewn pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n gweithio fwyaf gyda modelau 3D. Dyluniodd adeiladau gyda’r bwriad iddynt fod yn rhan o ddilyniant sinematig gan arddangos defnydd amlwg o strwythr naratif yn eu cynllun. Wedi graddio (BA), gweithiodd fel artist gwirfoddol ar brosiect ‘Tube’ Bassam Kurdali yn labordy BitFilms yng Ngholeg Hampshire, Northampton a Massachusetts. Yno, canolbwyntiodd ar ddylunio modelau a gosodiadau yn ogystal â bod yn rhan o dîm rhaglennu effeithiau arbennig.

Alan Whitfield

A55. blinc12

Mae Alan Whitfield yn artist digidol ac yn fardd. Mae ei waith wedi fritho gan ei fagwraeth dosbarth gweithiol yn y gogledd. Mae ei waith yn ymateb i sylwadau cymdeithasol ac yn dogfennu’r hyn sydd o’i gwmpas. Mae Alan yn artist lleol ac yn dychwelyd i ŵyl blinc am y drydedd blwyddyn. Eleni, mae ei waith yn canolbwyntio ar y gofod hynny sydd o’n cwmpas yn ein bywyd o ddydd i ddydd. Er ein bod yn teimlo’n rhan o’r gofod hwn, allwn ni ddim wir fynd i’r afael a’i sancteiddrwydd mewnol a datblygu cysylltiadau pellach yno. Mae Alan yn anelu i ddal sylw’r gwylwyr gyda’i osodiad ‘look but don’t touch’ (edrychwch, ond peidiwch â chyffwrdd).

 

Cefnogwyd gan…

 

Amseroedd a Lleoliadau’r Rhaglen

Nos Wener

Laser Bridge 7.00y.h. tan 12y.h.

Tafluniadau yn y Dref 6.30y.h. tan 10.30y.h.

Cerbyd Sinema blinc 3.00y.h. tan 10.00y.h

 

Nos Sadwrn

Laser Bridge 7.00y.h. tan 12y.h.

Tafluniadau yn y Dref 6.30y.h. tan 10.30y.h.

Leave a Reply