Aether a Hemera
Mae Aether a Hemera yn tynnu ar sawl disgyblaeth wahanol wrth gydweithio. Prif ffocws eu gweithiau yw defnyddio grym anfaterol fel golau i brocio’r synhwyrau. Mae’r artistiaid yn gwneud hyn drwy gyfuno technoleg ddigidol a gofod materol i greu gofod emosiynol y gallwch chi ymgolli’n llwyr ynddo. Eu nod artistig ydi ennyn atgofion, archwilio i’r ffordd rydym ni’n ymateb i’r hyn sydd o’n cwmpas ac i ddeffro’r profiadau dynol hynny sy’n gyffredin i ni i gyd. Rhan fawr o’r gweithiau yw parodrwydd y gynulleidfa i gymryd rhan.
Alan Whitfield
Llynedd bu i Alan Whitfield ddefnyddio darn o farddoniaeth fel rhan o’i dafluniad. Eleni roedd arno eisiau creu cyfres o gerddi lled hunangofiannol am rywun yn syrthio mewn cariad â muriau Conwy. Caiff y gwylwyr eu cymell i astudio’r gyfres o luniau sain a golau a grëwyd fel teyrnged i gyfnod y film noir. Mae’r artist yn bwriadu annog y gwylwyr i recordio eu hymateb trwy’r cyfryngau cymdeithasol #noirconwy tra maen nhw’n edrych ar ei waith.
Anna Demitrui
“Greddf a Dyfeisgarwch”: Arddangosfa Gelf yn Dathlu Bywyd Alan Turing.
Eleni mae hi’n gan mlynedd ers geni Alan Turing, un o’r mathemategwyr gorau a gynhyrchodd Prydain erioed. Dyma’r gŵr a ddyfeisiodd y cyfrifiadur digidol, a gynorthwyodd i dorri côd Enigma yr Almaenwyr ac a sylfaenodd Gwyddoniaeth Deallusrwydd Artiffisial. Hebddo ef a’i syniadau byddai’r byd yn lle gwahanol iawn. Mae ei syniadau wedi dal dychymyg artistiaid ers degawdau ac mae’r dechnoleg a ddyfeisiodd wedi darparu’r cyfarpar i greu gweithiau celf hollol newydd.
Alex May
Mae Alex May yn artist sy’n gweithio â golau a chodau.
Ar gyfer blinc bydd Alex yn defnyddio ei feddalwedd mapio fideo ei hun, “PaintingWithLight”, i greu cerflun fideo ar y pryd sy’n esblygu (cerflun 3D gyda thafluniad fideo) gan ddefnyddio gwrthrychau a fideos y bydd wedi eu casglu o Gonwy yn ystod yr ŵyl. Bydd ei waith yn ddehongliad cyfoes o berfformiad Joseph Beuys yn 1974 “I like America and America likes me”.
Bedwyr Williams
Cafodd Bedwyr Williams ei eni yn Llanelwy ym 1974 a’i fagu ym Mae Colwyn. Bu iddo raddio o Ysgol Gelf Ganolog Sant Martin yn Llundain ac Ateliers yn Arnhem, yr Iseldiroedd. Yn dilyn cyfnod yn Llundain fe symudodd yn ôl i Gymru i fyw yn Rhostryfan. Mae Bedwyr yn edrych ar y byd gyda llygad craff a hiwmor eironig. Mae’n tynnu ar ei brofiadau cyffredin a rhyfedd ei hun – o’i ddyddiau mewn ysgol wledig i’w gyfnod fel artist preswyl. Wrth wneud hyn mae’n datgelu ei fympwyon a’i niwrosis cymhleth ei hun, ynghyd â’n rhai ninnau hefyd. Yn ei waith diweddaraf mae’n ymchwilio ymhellach i hunaniaeth a chwedloniaeth bersonol gan roi pwyslais arbennig ar ei hanes ei hun a hanes ei deulu.
Chris Bird a Viv Rickman-Poole
Mae’r artistiaid Chris Bird a Vivienne Rickman-Poole wedi creu prosiect ffilm ar y cyd sy’n ceisio amlygu rhai o’r pethau sy’n eu hudo i fynd ar anturiaethau fel nofio mewn moroedd a llynnoedd anghysbell.
Mae llynnoedd, afonydd ac arfordir Sir Gonwy wedi ysbrydoli’r ddau yn eu bywyd hamdden a’u bywyd artistig fel ei gilydd. Yn y prosiect hwn maen nhw’n edrych ar agweddau corfforol, haniaethol a synhwyraidd nofio. Fe all nofio fod yn ymdrech galed yn erbyn yr elfennau ac yn brofiad tangnefeddus ac arallfydol, sy’n unigryw o ran lle ac amser.
Chris Squire
Maes y celfyddydau perfformio oedd yn mynd â bryd Chris Squire i ddechrau ond erbyn hyn mae o wedi gadael byd y theatr i arbrofi gyda digwyddiadau cyfranogi, technoleg newydd a gosodiadau celfyddydol.
Spencer Roberts
Prif ddiddordeb Spencer Roberts yw’r berthynas rhwng celf, dylunio, athroniaeth a thechnoleg. Mae ganddo radd BA mewn Athroniaeth o Brifysgol Hull a gradd MSc mewn Cynhyrchiad Amlgyfrwng Rhyngweithiol o Brifysgol Huddersfield.
Craig Morrison
Artist a Churadur blinc
Mae gwaith gwreiddiol Craig Morrison gyda Meat Beat Manifesto a’i ddyluniadau Seiber Pync wedi golygu fod ei waith ar ddangos yn barhaol yn Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain ac Amgueddfa Fictoria ac Albert. Mae o wastad wedi bod yn frwdfrydig am Gelf a Ffilm. Mae canmlwyddiant Alan Turing wedi ei ysbrydoli i gydweithio i greu dau ddarn mawr o waith eleni: Symudiadau Lliw Dwys, darn a fydd yn cael ei daflunio ar furiau Plas Mawr, a Diolch lle mae’n ail-greu beddargraff Alan Turing mewn modd emosiynol yn defnyddio neon. Mae’r ddau ddarn i’w gweld ar lwyfan y BBC.
Fel artist mae Craig yn creu gweithiau ar raddfa fawr. Mae’r syniad o fod wedi’ch amgylchynu yn elfen annatod o’r gweithiau hyn ac mae hynny’n gofyn am ymrwymiad llwyr y gynulleidfa. Serch hynny mae ei syniadau yn gyfosodiadau cain ac emosiynol.
Dion Hamer
Mae ymateb yn anuniongyrchol i gymdeithas a materion diwylliannol cyffredinol wedi bod yn elfen bwysig o waith Dion Hamer. Daw ei ysbrydoliaeth o deithio – rhywbeth sy’n tanio’i chwilfrydedd ac yn ffurfio’i safbwyntiau. Mae ymchwilio i le arbennig yn rhan bwysig o’i waith gyda’r artist yn ymateb yn gysyniadol i ddarlunio ei gysylltiad â diwylliant, hunaniaeth a hanes y lle.
Mae gorchwylion beunyddiol ein bywydau cyffredin yn ysbrydoli’r awdur ac yn ei waith mae’n ceisio gwneud y pethau pob dydd yn bethau anghyffredin.
Dymphna D’arcy
Mae Dymphna yn gweithio ym maes dawns, theatr, fideo a delwedd symudol.
Mae hi’n ymchwilio i syniadau a chysyniadau yn ymwneud ag amser, lle a hunaniaeth. Mae hi’n edrych yn benodol ar y syniad o hunaniaeth a gwleidyddiaeth hunaniaeth a’r cysyniadau sy’n ymwneud â thopograffeg a lle.
Gan weithio â fideo a delweddau symudol mae hi’n gallu archwilio’r cysyniad o fydolwg a’r modd rydym ni’n sylwi ar y byd o’n cwmpas. Mae’n canolbwyntio ar sefyllfaoedd cyffredin gan eu trawsnewid. O bryd i’w gilydd mae’r camera yn gymorth i edrych yn ôl ar hanes er mwyn dod i ddeall y presennol a symud ymlaen i’r dyfodol – proses â sawl agwedd sy’n newid ac yn esblygu drwy’r amser.
Elizabeth Ashworth
Mae barddoniaeth Elizabeth Ashworth, fel ei lluniau, yn reddfol ac yn fynegiadol. Mae’n ymateb i newidiadau cyson megis newidiadau i’r tirlun a’r atmosffer a newidiadau yn sgil colled ac unigedd. Mae hi wedi ennill Gwobr Alice Hunt Bartlett ac mae ei cherddi wedi ymddangos yn Transatlantic Review, Poetry Review, Poetry Wales a’r New Welsh Review, a chasgliadau yn Outposts a Cinnamon Press. Mae barddoniaeth Siapan, barddoniaeth bît a barddoniaeth Dada oll wedi dylanwadu arni. Bwriad ei barddoniaeth ydi aflonyddu a boddhau yn hytrach na sicrhau a diddanu. Mae hi’n hoff o arbrofi gyda’r ddwy ffurf gelfyddydol yn yr un modd – drwy greu harmoni testunol a gweadol, trwy ddefnyddio iaith yn union fel y mae hi’n defnyddio lliw a thrwy ganfod gwrthgyferbyniadau ac ystyron newydd.
Greg Byatt
Mae Greg Byatt, Artist Amlgyfrwng ac Ymlacio, yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae ei weithiau wedi eu gweld a’u profi mewn nifer o lefydd gan gynnwys y FACT a’r Future Sonic yn Lerpwl a’r Corner House ym Manceinion. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur dros ben iddo rhwng gweithio ar Sioe Theatr Gerddorol, Sir Henry at Rawlinson’s End, a chyfrannu at Archif Ffilmiau Jas y Byd yn ogystal â chydweithio ar Brosiect Cyngor Celfyddydau Cymru yn y Parc ger y Bala. Eto eleni bydd y Lleng Prydeinig yng Nghonwy yn cael ei weddnewid yn Sioe Sinema Ddigidol a Gofod Arddangos ac yn ganolbwynt i ŵyl blinc.
Helen Booth
Yn anad dim, artist gweledol ydi Helen. Mae hi’n cael ei thynnu at fyd natur a byrhoedledd bywyd dynol. Mae tirlun godidog Cymru a phatrymau a mathemateg ffiseg elfennol, yn arbennig Damcaniaeth y Llinyn, yn ei hysbrydoli. Mae’r cysyniad o ddirgryniadau bychain a llinynnau deallus, sy’n hanfodol i fywyd, yn rhyfeddol; yn arbennig o ystyried fod y byd rydym ni’n byw ynddo mor strwythuredig a disgybledig. Mae’r hollt yma, y gwrthgyferbyniad rhwng Anhrefn a Threfn, yn rhan annatod o’i gwaith.
Yn ddiweddar bu iddi gyfarfod â Mike Yates, Ysgolhaig ar waith Turing. Dangosodd y gŵr hwn waith Fibonacci a strwythur Mathemategol Turing iddi. Pan edrychwch ar geometreg a chymesuredd y gweithiau a’u cymharu â llifedd y Llinynnau fe welwch chi harddwch cynhenid yn y gwrthgyferbyniad.
Mae Cariad a Marwolaeth yn ddau beth rydym ni i gyd yn eu profi. Mae’n hoff o ddychmygu’r pethau hyn fel Anhrefn a Threfn ac fel llinellau Darfodedig a Strwythuredig. Mae malais y castell hefyd yn cynnig yr un gwrthgyferbyniad – yr hanes barbaraidd a’r ymwelwyr edmygol.
Alys Hughes ac Elly Stringer
Mae Alys Hughes ac Elly Strigner wedi cydweithio i greu perfformiad sy’n edrych ar y cysyniad Cymreig o ‘Hiraeth.’ Mae’r prosiect yn ceisio egluro’r emosiwn cymhleth y mae pobl yn ei deimlo wrth hiraethu.
Bydd y darn yn cynnwys dawns gan Alys a ffilm wedi ei hanimeiddio gan Elly. Bydd y ffilm yn cael ei thaflunio ar y muriau gyda barddoniaeth Gymraeg i’w chlywed yn y cefndir a phrofiadau pobl o ‘Hiraeth’.
Jessica Callan
‘Diddiwedd…’
Parhad amser, ein profiad, ein hemosiynau, ein bywydau; genedigaeth, bywyd, marwolaeth. Mae anadl yn cael ei roi, ei gymryd, murmur bywyd ar y gwynt. Os ydym ni’n aros mewn tawelwch, a gwrando, a fyddwn ni’n eu clywed nhw?
Mae’r artist yn gweithio gyda’r agweddau sy’n ffurfio’n hunaniaeth –profiad personol, yr hunan a mynegiant yr hunan.
Mae ein profiad ni, y syniad o wneud rhywbeth penodol ar ennyd benodol, wedyn yn dod yn rhan o’r hunan. Er bod y profiad yma’n benodol i ni fel unigolion, mae’r weithred o gynrychioli yn datgysylltu’r profiad o’r person. Bellach does neb yn berchen ar y profiad yma gan ei fod yn cael ei rannu ag eraill. Hynny ydi, mae’n brofiad byd-eang.
Mae’r gwaith yma yn gofnod o galon a wnaed o halen môr grisialog, yn toddi mewn dŵr.
Jessica Lloyd Jones ac Ant Dickinson
Mae ‘Aura’ yn archwilio’r ffordd y datblygydd y peiriant electromecanyddol yn gyfrifiadur modern drwy ddefnyddio delwedd Kirlian mewn modd creadigol. Mae rhoi gwefr drydanol i nifer o rannau o gyfrifiadur yn cynhyrchu meysydd egni gweledol sy’n cael eu dal mewn delwedd symudol gyda gwedd-sain electromecanyddol a sain electroneg.
Drwy dynnu’r cyfrifiadur oddi wrth ei gilydd yn ddarnau unigol, maen nhw’n ceisio mynd o dan groen y cyfrifiadur a dadlennu ei weithdrefnau a’i rym. Drwy ddal y rhyngweithio rhwng trydan a thechnoleg mae’r artistiaid yn dinoethi egni a grym ffisegol trydan fel ffenomena naturiol sy’n cael ei reoli a’i ddefnyddio gennym ni.
Joanna Wright ac Alex Ashcroft
Mae Joanna Wright yn gweithio ym meysydd ffilmiau dogfen, recordio hanes llafar, archifau a ffotograffiaeth. Am y pum mlynedd nesaf hi fydd artist preswyl Prosiect Dim Carbon Prydain yng Nghanolfan Technoleg Amgen Machynlleth – prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Joanna yn byw ac yn gweithio ym Mangor.
Mae Alex Ashcroft yn ddylunydd sain a pheiriannydd sy’n gweithio mewn sawl maes gwahanol. Mae o wedi cydweithio ar amryw o brosiectau gan gynnwys recordio mewn stiwdio a recordio ar safle, gwaith ffilm, gosodiadau oriel sain-gweledol a pherfformiadau celf byw. www.aja-audio.co.uk
Jobina Tinnemans
Mae Jobina Tinnemans yn gyfansoddwraig a dylunydd sain ac yn artist cyfoes a chanddi gwmni cynhyrchu rhaglenni radio annibynnol. Mae ei gwaith yn gyfoethog, yn gyferbyniol ac yn cynnwys nifer o dechnegau amrywiol. Daw Jobina o’r Iseldiroedd yn wreiddiol ond mae hi wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers bron i bum mlynedd bellach. Yn ei chynefin anghysbell mae hi’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar ddatblygu ei dawn ac o ganlyniad mae ei gwaith wedi mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi ymddiddori ym maes cynhyrchu cysyniadol a cherddoriaeth glasurol ac mae’r awyr agored a’r syniad o le wedi bod yn ddylanwad mawr ar ei cherddoriaeth. Mae Jobina wedi gweithio â’r rhai o arloeswyr a sefydliadau mwyaf uchel eu parch ym maes cerddoriaeth, radio ac ymchwil.
Joel Cockrill
Artist a Churadur blinc
Mae’r syniad o le a chydadwaith sain a golau o fewn lle yn rhywbeth amlwg iawn yng ngwaith Joel. Mae ei ddiddordeb yn hynny wedi dylanwadu ar ei waith, boed yn ffilm, perfformiad, gwaith sain neu waith ar y cyd ag artist arall. Ers chwarter canrif bellach mae o wedi bod yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan arbrofi gyda’i greadigrwydd.
Ar gyfer blinc 2012, mae Joel wedi cydweithio â Craig Morrison ar ddau osodiad golau enfawr. Mae ‘Diolch’ yn coffau Alan Turing, y mathemategwr arloesol, ac mae ‘Symudiadau Lliw Dwys’ yn ddarn a fydd yn cael ei daflunio ar Blas Mawr.
Bydd llwyfan y BBC yn arddangos nifer o ffilmiau dogfen byrion gan Joel. Mae’r ffilmiau hynny’n adrodd hanes artistiaid eraill blinc, gan archwilio eu gwaith, eu hawen, eu hysbrydoliaeth a pherthnasedd eu gwaith i ganmlwyddiant Alan Turing.
Ludic Rooms
Mae Conwy a garaf, câr Conwy fi yn osodiad rhyngweithiol sy’n defnyddio tafluniadau ochr yn ochr â sgrin gyffwrdd electronig arbennig. Mae’r sgrin gyffwrdd yn rhyngwyneb diwifr i’r gynulleidfa ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ddehongli’r darn eu hunain a fydd wedi ei daflunio ar gastell Conwy.
Mae Ludic Rooms yn ffrwyth cydweithio rhwng yr artistiaid digidol Ashley Brown a Dom Breadmore. Maen nhw’n arbenigo mewn gweddnewid llefydd drwy dechnoleg a chwarae. Mae eu holl weithiau yn rhyngweithiol ac yn annog y gynulleidfa i fod yn gyd-gynhyrchwyr. Mae eu gwaith yn cynnwys gosod, perfformio a chelf gyhoeddus ac yn ceisio edrych ar yr hyn sy’n cysylltu ein profiadau digidol ac analog yn y byd.
Malcolm Litson
Mae gwaith Malcolm Litson yn cynnwys tafluniadau, sain, delwedd symudol a chyfryngau 2D.
Mae ei waith gyda thafluniadau pensaernïol wedi esblygu o’i gyfnod yn cynhyrchu hysbysebion ‘guerrilla’ a oedd yn cynnwys taflunio llun o Gail Porter ar Ddau Dŷ’r Senedd yn Llundain. Bu i’w waith ddatblygu yn sgil comisiwn ar gyfer y Turin Biennale lle bu iddo daflunio delweddau ar adeiladau enwog y ddinas.
Yn ddiweddar mae o wedi bod yn gweithio â ‘The Light Surgeons’, cydweithfa amlgyfrwng sefydledig. Mae’r prosiectau’n cynnwys cynhyrchiad sain ar gyfer ‘LDN24’ yn Amgueddfa Llundain a chynhyrchiad cerddorol a pherfformiad ar gyfer ‘True Fictions’, perfformiad sain/gweledol sydd wedi teithio ar draws y byd.
Ar gyfer blinc mi fydd yn ffilmio ac yn creu tafluniadau o Gonwy a’r cylch.
Neil Coombs
Mae Neil Coombs yn artist ac awdur amlgyfrwng sy’n gweithio yng ngogledd Cymru. Mae ei waith wedi ei ysbrydoli gan swrealaeth ac, oherwydd hynny, yn archwilio hynod bethau bywyd pob dydd. Mae ei waith ffotograffig, ei osodiadau a’i waith amlgyfrwng wedi eu harddangos mewn orielau a gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gynnwys mewn sioeau grŵp yn Nhwrci, yr Almaen a’r Unol Daleithiau. Neil ydi sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn swrrealaidd Patricide.
Ar hyn o bryd mae ganddo arddangosfa yng Nghastell Bodelwyddan sy’n cynnwys collage Phantoms of Surrealism a gwaith ffotograffig ochr yn ochr â rhai o’i brosiectau diweddar gydag artistiaid eraill. Mae ei ddarn amlgyfrwng ar gyfer blinc wedi datblygu o’r ffoto-osodiad yma.
Rhys Trimble
Conwy Caraf / corwynt acennau
Car Conwy fi / castle & core
Yma yng Nghonwy Rhys ydi’r Derynŵr – mi fydd yn perfformio ‘barddoniaeth fel gosodiad’ mewn safle penodol ac yn adrodd darn o farddoniaeth gan efelychu cân jac-y-dos y dref gyda’r ymadrodd ‘Conwy Caraf / Car Conwy fi’. Daw ei ysbrydoliaeth o ddiddordeb siamanaidd Joseph Beuys – “I bwysleisio’r syniad o weddnewid a sylwedd. Dyma’n union y mae’r siaman yn ei wneud er mwyn newid a datblygu pethau: mae ei natur yn therapiwtig.” Bydd y Derynŵr yn diddanu a dychryn, yn gweddnewid a gwella.
Rob Spaull
Mae Rob yn gweithio yng ngogledd Cymru. Ers dros ddeng mlynedd mae wedi gweithio yn lleol a rhyngwladol gan ddefnyddio mapio digidol a datblygu amlgyfrwng i greu tafluniadau. Mae tafluniadau Rob wedi eu gweld ar draws gogledd Cymru – mewn theatrau, sioeau teithiol ac ar adeiladau.
Mae Rob yn frwdfrydig dros wneud celf ddigidol gyfoes yn rhan arferol o fywyd pobl gan sicrhau fod ei weithiau yn gyffrous ac ar gael i bawb ac yn cadw’r elfennau haniaethol ac annisgwyl. Mae ei gariad at ffilm, dyluniadau 3D, graffeg mudiant a gosodiadau sain yn amlwg wrth i ni edrych ar y modd y mae’n adrodd storïau ac yn cynhyrchu celf weledol a sonig sy’n arloesol.
Seth D’arcy-Schewe
Ers graddio o Brifysgol Derby mae Seth wedi parhau i arbrofi gyda nifer o wahanol dechnegau ym maes y cyfryngau digidol. Mae o wastad yn edrych ar agweddau newydd i dafluniadau ‘vjing’ a sain-gweledol. Gan ddefnyddio’r camera fel arf cymdeithasol mae’n edrych, yn dysgu ac yn recordio profiadau unigryw bywyd. Mae’n dadansoddi llanw a thrai ymddygiad dynol ryw ac yn gwylio’r byd wrth i fywyd lifo heibio. Mae Seth yn arbenigwr croes-lwyfan a thiwtor cyfryngau digidol ac yn mwynhau vjing. Mae gweithio gyda thechnoleg ddigidol wedi ei alluogi i archwilio’r modd y mae cysgod a golygfa yn cael eu cymysgu a’u defnyddio’n greadigol.
Steve Knight a Sean Vicary
Mae Sean Vicary yn artist sy’n byw yng ngorllewin Cymru. Mae ei waith yn mynd i’r afael â’r syniad o ‘dirlun’ (allanol a mewnol) ac o’r byd ‘naturiol’ y mae ein hymwneud ag o yn mynd yn fwyfwy gwleidyddol. Mae’n defnyddio gwrthrychau a malurion o bob math i archwilio’r berthynas gan ddefnyddio’r elfennau hyn i greu casgliad o animeiddiadau. Mae’r rhain wedyn yn sbarduno’r gwyliwr, weithiau mewn modd awgrymog neu fel rhan o broses gudd y tu ôl i’r hyn rydych chi’n ei weld.
Mae cefndir Steve mewn meddalwedd cyfathrebu a datblygu systemau rhyngweithiol a dawn celfyddyd gain Sean wedi eu galluogi i greu dyluniadau pryfoclyd mewn sawl cyfrwng gwahanol. Mae eu gweithiau diweddar yn edrych ar ansicrwydd bywyd a hunaniaeth, gan gyfuno gosodiadau ffilm gydag animeiddiadau safle penodol a’u cyflwyno trwy borwr realiti estynedig y Smartphone.
Wendy Dawson
Mae Wendy Leah Dawson yn artist sy’n gweithio â metel. Mae ei gwaith wedi ei ysbrydoli gan hynafiaethau, mecanwaith ac awch pobl i ddyfeisio. Mae’n hi’n datgysylltu gwrthrychau, yn eu hastudio a’u tynnu’n ddarnau, yn categoreiddio darnau ac wedyn yn eu hail-greu a’u hymgorffori i mewn i wrthrychau eraill. Mae ei gwaith yn uno crefft draddodiadol (wedi ei ysbrydoli gan ei magwraeth mewn teulu o wneuthurwyr clociau a gwniadwragedd), a thechnoleg fodern (y dechnoleg a gewch mewn prototeipio cyflym, sganio 3D ac offer digidol). Yn ddiweddar bu iddi ganfod animeiddio mudiant-stop a thaflunio, sydd wedi trawsnewid ei gwaith. Ers hynny mae hi wedi bod yn arbrofi gyda rhyngweithio a chyda cyfleu’r cysyniad o symud. Mae hi’n ystyried recordio ei gwaith yn defnyddio’r dulliau yma.
Leave a Reply